Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 24 Chwefror 2021
Amser:
09.01 -
12.01
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11048
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Laura Anne Jones AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Gill Harris, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Yr Athro Arpan Guha, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Steve Moore, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Andrew Carruthers, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Paul Mears, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Yr Athro Kelechi Nnoaham, Bwrdd lechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns AS a dirprwyodd Laura Anne Jones AS ar ei rhan.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda byrddau iechyd lleol
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
2.2 Cytunodd Steve Moore, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i rannu copi o 'Adroddiad Darganfod Strategol' y bwrdd iechyd gyda'r Pwyllgor.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch gwaith dilynol ar effaith COVID-19 ar chwaraeon
4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.2 Llythyr at y Cadeirydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol
4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.3 Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol
4.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.4 Llythyr at y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 27 Ionawr 2021
4.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.5 Llythyr at y Cadeirydd gan y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 27 Ionawr 2021
4.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.
6 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 3 - Effaith ar y sector gofal cymdeithasol a gofalwyr di-dâl: Trafod yr adroddiad drafft
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft a chytunodd i anfon drafft diwygiedig at yr Aelodau drwy e-bost cyn ei drafod ymhellach yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.
8 Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 - Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru
8.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog i adroddiad y Pwyllgor.
8.2 Dywedodd yr Aelodau eu bod yn siomedig mai dim ond 30 munud a neilltuwyd ar gyfer dadl ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mawrth 2021, a chytunwyd i drafod sut i baratoi at y ddadl dy tu allan i’r pwyllgor.